Cafodd Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd ei chynnal yn Abertawe eleni a bu 600 o blant yn mynychu’r digwyddiad ar ddydd Llun, 22 Chwefror yn Theatr y Grand. Mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru, roeddd y sioe undydd rad ac am ddim yn gyfle i weld rhai o sêr mwyaf y byd llyfrau plant, gan gynnwys Steven Butler, Nick Arnold, Tony De Saulles, Knife and Packer, Huw Aaron a Dan Anthony!
‘Mae’n gyfle ardderchog i blant ysgolion cynradd ddarganfod rhagor am eu hoff awduron a darlunwyr a dysgu rhai o gyfrinachau’r grefft,’ esboniodd Angharad Tomos, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen gyda Chyngor Llyfrau Cymru.
Ychwanegodd: ‘Rydym wrth ein bodd bod Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd yn dod i Theatr y Grand yn Abertawe. Mae’n gyfle arbennig i blant lleol gael eu difyrru a’u hysbrydoli gan awduron gwych. Rydym yn falch iawn fod y daith yn cychwyn yng Nghymru eleni.’
Yn dilyn y sioe lyfrau yn y bore, bydd y cyffro’n parhau yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe lle bydd Diwrnod y Llyfr yn ceisio torri Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o bobl yn cymryd rhan mewn cwisiau llyfrau ar yr un pryd. Bydd 200 o blant o ysgolion lleol yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Mae Kirsten Grant, Cyfarwyddwr Diwrnod y Llyfr, yn edrych ymlaen at yr her:
‘Os bydd ein hymgais i dorri Record Byd Guinness yn llwyddiannus fe fydd hi’n gamp a hanner, gan brofi bod darllen yn gallu cysylltu pobl ar hyd a lled y wlad. Ac am atgof bendigedig i’r holl blant fydd yn cymryd rhan!’
Mae'r tudalen hon yn ar gael yn Saesneg hefyd