Gwobrau Tir na n-Og 2018

Myrddin a Mererid yn cipio’r prif wobrau

Herio plant a phobl ifanc â chyfleoedd darllen amrywiol

llun 9Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2018 o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed.

Mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd brynhawn Iau, 31 Mai, cyflwynwyd y gwobrau i Mererid Hopwood am ei chyfrol Miss Prydderch a’r Carped Hud (Gwasg Gomer), ac i Myrddin ap Dafydd am ei nofel Mae’r Lleuad yn Goch (Gwasg Carreg Gwalch).

Cyflwynir Gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Fe’u sefydlwyd yn 1976, a thros y blynyddoedd cawsant eu cyflwyno i rai o brif awduron llyfrau plant Cymru.

miss prydderchEnillydd y categori cynradd yw Mererid Hopwood o Gaerfyrddin, am y teitl cyntaf mewn cyfres o lyfrau a gyhoeddir gan Wasg Gomer am Miss Prydderch, yr athrawes anghyffredin, a’i hanturiaethau.

Dywedodd Llinos Davies, Cadeirydd y Panel Beirniaid: ‘Dyma nofel ysgafn a chyfoes sy’n chwa o awyr iach. Mae’r awdur a’r darlunydd wedi gweld cyfle i bontio rhwng technoleg a’r gair printiedig, a dyma un ffordd ymlaen i sicrhau bod llyfrau’n parhau yn ddeniadol i blant mewn byd mor gystadleuol.’

Ychwanegodd: ‘Mae’r nodiadau bach yn cynnig eglurhad ar eiriau anodd ac ymadroddion diddorol. Gall hyn roi hyder i blant wrth iddynt ddysgu geiriau ac ymadroddion newydd, a hynny heb iddynt sylwi eu bod yn dysgu gan fod hwyl i’w chael wrth fynd ar antur yng nghwmni’r holl gymeriadau.’

Cafodd Mererid ei geni a’i magu yng Nghaerdydd. Graddiodd mewn Sbaeneg ac Almaeneg yn Aberystwyth, cyn cwblhau doethuriaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Bellach mae’n byw yng Nghaerfyrddin gyda’i theulu ac mae’n Athro ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Hi yw’r ferch gyntaf i gyflawni’r gamp o ennill tair prif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Meddai Mererid: ‘Mae ennill Gwobr Tir na n-Og am y nofel gyntaf yng nghyfres Dosbarth Miss Prydderch yn hwb aruthrol i mi. Hoffwn ddiolch i Sioned Lleinau a Gwasg Gomer am gefnogi’r syniad flynyddoedd maith yn ôl ac i Nia Parri a’i chriw am ddal ati gyda’r sgribls a’r stwff a’r swigod i gyd. Diolch hefyd i Rhys Bevan Jones am y lluniau gwych ac i Gyngor Llyfrau Cymru am yr holl anogaeth.’

lleuadEnillydd y categori uwchradd yw Myrddin ap Dafydd, a hynny gyda’i gyfrol Mae’r Lleuad yn Goch (Gwasg Carreg Gwalch). Nofel yw hon sy’n clymu’r Tân yn Llŷn yn 1936 a’r ymosodiad ar Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937. Gadawodd y gyfrol gryn argraff ar aelodau’r panel, gyda’r ddwy stori’n cydgyffwrdd drwy’r nofel.

Meddai Llinos Davies: ‘Mae hon yn stori sydd wedi ei saernïo’n gelfydd mewn tair rhan a’r cwbl yn gwau at ei gilydd gan blethu’r digwyddiadau’n grefftus. Mae cyfoesedd yn perthyn i’r nofel yn ogystal â’r elfennau hanesyddol.’

Ganwyd y Prifardd Myrddin ap Dafydd yn Llanrwst. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ef yw sefydlydd Gwasg Carreg Gwalch. Yn awdur toreithiog, enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2001 ac mae bellach yn byw yn Llwyndyrys ger Pwllheli gyda’i deulu.

Dywedodd Myrddin, ‘Braint ac anrhydedd yw derbyn Gwobr Uwchradd Tir Na N-og 2018. Mae ‘sgwennu nofelau yn waith llawer mwy unig na byd barddoniaeth Gymraeg ac felly mae’n wych iawn cael ymateb gan gynulleidfa a beirniaid. Mae’n hwb i ‘sgwennu mwy!’

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: ‘Hoffem longyfarch Mererid a Myrddin yn fawr ar ennill Gwobr Tir na n-Og eleni. Roedd safon y llyfrau ar y rhestr fer yn uchel iawn eleni eto, gan gynnwys ystod eang o deitlau i’r arddegau. Mae’n diolch yn enfawr i’r awduron a’r cyhoeddwyr am eu gwaith. Estynnwn ein llongyfarchiadau diffuant hefyd i’r cyhoeddwyr buddugol – Gwasg Carreg Gwalch a Gomer – ar eu llwyddiant.’

Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor: ‘Dyma ddwy gyfrol sy’n herio plant a phobl ifanc â chyfleoedd darllen amrywiol. Mae hyn yn amserol dros ben yn sgil ymchwil diweddar gan Wasg Prifysgol Rhydychen am yr hyn a elwir yn ‘fwlch geirfa’, sef diffyg mewn sgiliau cyfathrebu ymhlith plant a phobl ifanc. Awgrymir mai un rheswm dros y ‘bwlch geirfa’ yw’r diffyg cyfleoedd i ddarllen er mwyn pleser, cyfleoedd sydd wrth wraidd ein holl brosiectau ni fel corff sy’n hyrwyddo darllen.’

Aberystwyth yn agos at galon enillydd eleni

the nearest far away place   hl

Yr awdur Hayley Long yn cipio Gwobr Tir na n-Og am nofel i’r arddegau

Dychwelodd yr awdur Hayley Long i’r dref lle y bu’n astudio Saesneg yn y brifysgol er mwyn derbyn Gwobr Tir na n-Og am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Mae’r wobr, a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn dathlu’r teitl Saesneg gorau i blant ac iddo gefndir Cymreig dilys.

Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar 9 Mai, fel rhan o gynhadledd CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru), cyflwynwyd y wobr i Hayley Long am ei nofel The Nearest Faraway Place, a gyhoeddir gan Hot Key Books.

Nofel i’r arddegau yw hon, sy’n adrodd hanes dau frawd, Dylan a Griff, a’r ffordd y maen nhw’n goresgyn damwain drasig sy’n newid eu bywydau am byth. Lleolir y stori yn Efrog Newydd ac Aberystwyth, gyda chyfeiriadau at leoedd ecsotig o gwmpas y byd, a dilynwn y bechgyn wrth iddynt geisio ailadeiladu eu bywydau wedi’r chwalfa fawr.

Roedd y panel beirniaid yn gytûn fod The Nearest Faraway Place wedi’i hysgrifennu’n feistrolgar, gan ddelio â themâu dwys megis colled a gobaith â chryn sensitifrwydd wrth i’r bechgyn geisio dygymod â’u hamgylchiadau enbyd.

Yn ôl Gordon Bell, Cadeirydd Panel Saesneg Gwobr Tir na n-Og, ‘Mae The Nearest Faraway Place yn llwyddo i gyfleu naws arbennig tref Aberystwyth mewn ffordd gredadwy iawn, ac mae’n cynnig golwg wrthrychol ar sefyllfa Cymro ifanc yn y gymdeithas fodern. Mae trafferthion Griff wrth iddo geisio dod i delerau â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn cael eu cyfleu’n fyw iawn. Drwy gydol y stori, dengys yr awdur ddealltwriaeth ac empathi am y ffordd y mae’r berthynas rhwng y cymeriadau’n datblygu, a chaiff y rhan sydd gan yr hen Mr Powell yn y broses o helpu Griff i dderbyn yr hyn sydd wedi digwydd ei disgrifio’n hynod o deimladwy.’

Ychwanegodd, ‘Mae’n llyfr gwych, a llwyddodd Hayley Long i hoelio sylw’r darllenydd drwy’r stori; mae’r nofel yn dorcalonnus ac yn obeithiol ar yr un pryd.’

Dywedodd Hayley Long, ‘Dwi wrth fy modd ’mod i wedi ennill Gwobr Tir na n-Og, ac wedi gwirioni’n lân! Defnyddiais The Nearest Faraway Place i gyfleu fy hoffter i o Aberystwyth. Mae ennill y wobr bwysig hon – un sy’n dathlu Cymru a’i diwylliant yn y byd llyfrau plant –  yn fraint arbennig iawn.’

Noddir Gwobr Saesneg Tir na n-Og – sy’n cydnabod ansawdd arbennig llyfrau Saesneg i blant a phobl ifanc ac iddynt gefndir Cymreig – gan CILIP Cymru.

Datgelir y teitlau Cymraeg buddugol oedran cynradd ac uwchradd mewn seremoni a gynhelir ar 31 Mai yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 yn Llanelwedd.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, ‘Roedd yna gyfoeth o deitlau i’w hystyried ar gyfer Gwobr Tir na n-Og eleni, gan adlewyrchu ansawdd uchel ac amrywiaeth eang y llyfrau sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n bleser mawr cael llongyfarch Hayley Long a’r cyhoeddwr Hot Key Books ar eu camp.’

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Helen Jones, Cyngor Llyfrau Cymru: helen.jones@llyfrau.cymru / 01970 624151

Mae modd gwrando ar yr awdur yn sôn am y llyfr wrth ddilyn y ddolen : http://www.hayleylong.org/navigation/the-nearest-faraway-place

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2018

Amrywiaeth a safon at ddant pawb

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2018, sef y gwobrau a roddir yn flynyddol gan y Cyngor i anrhydeddu gwaith gwreiddiol gan awduron ac arlunwyr llyfrau plant yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Noddir y gwobrau, sy’n cydnabod safon aruchel llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy iaith, gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru) a’r Cyngor Llyfrau.

Dywedodd Llinos Davies, Cadeirydd y Panel Llyfrau Cymraeg, ‘Roedd yn flwyddyn arbennig o gref heb yr un gyfrol wan, felly rhaid llongyfarch y gweisg am gynnyrch amrywiol o safon uchel.’ Ychwanegodd, ‘Braf yw gweld nifer dda o nofelau grymus wedi eu hanelu at yr arddegau.’

Nododd Gordon Bell, Cadeirydd y Panel Llyfrau Saesneg, mai testun balchder oedd safon ac amrywiaeth y llyfrau dan ystyriaeth eleni.

Ategwyd hyn gan Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: ‘Y mae’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn arwydd o safon arbennig llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru, a thestun balchder mawr yw gweld trawstoriad o themâu amrywiol yn dod i’r amlwg.’

‘Y mae’r amrywiaeth o lyfrau sydd ar y rhestr fer eleni yn galonogol dros ben,’ meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor. ‘Ein prif nod yw gwobrwyo’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc, ac annog plant i brynu a darllen llyfrau er mwyn pleser.’

Bydd enwau enillwyr y gwobrau Cymraeg (cynradd ac uwchradd) yn cael eu cyhoeddi ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn Llanelwedd ar 31 Mai 2018.

Cyhoeddir enillydd y wobr Saesneg yng nghynhadledd CILIP Cymru yn Aberystwyth ddydd Mercher, 9 Mai.

Teitlau’r rhestr fer Gymraeg:

Yma: Yr Ynys – Lleucu Roberts (Y Lolfa)
Y gyfrol gyntaf mewn trioleg o nofelau ôl-apocalyptaidd ar gyfer yr arddegau. Y flwyddyn 2140 yw hi a cheir hanes 49 o bobl a oroesodd ar ôl cuddio rhag bom niwclear mewn ogof ar ynys bellennig yn yr Arctig. Mae’r cenedlaethau wedi tyfu o darddiad Mam Un, ac mae ei dyddiadur hi yn allweddol ac yn ddylanwadol, yn arbennig yn hanes Gwawr, y ferch sydd yn ganolog i’r stori.

ynys

Merch y Mêl – Caryl Lewis (Y Lolfa)
Llyfr stori-a-llun hyfryd i blant 4–8 oed. Bydd cyfle i’r plant ddysgu enwau blodau ac am fyd natur trwy stori annwyl Caryl a lluniau bendigedig Valériane Leblond. Mae Elsi’n byw gyda’i mam-gu, sy’n cadw gwenyn. Trwy ddilyn y gwenyn, a sylwi ar bopeth sy’n digwydd yn yr ardd drwy gydol y flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro.

merch y mel

Gethin Nyth Brân – Gareth Evans (Carreg Gwalch)
Nofel ffantasi gyffrous sy’n plethu dau fyd. Mae bywyd yn boen i Gethin, 13 oed, ym Mhontypridd. Mae e’n ffraeo â’i fam o hyd, does gan Caitlin ddim diddordeb ynddo, ac mae’r Tri Trist yn mynnu ei blagio. Ond, yn dilyn parti yng nghartref Caitlin ar noswyl Calan Gaeaf, mae bywyd Gethin yn troi ben i waered, ac mae’n deffro mewn byd arall yn y flwyddyn 1713.

gethin nyth bran

Mae’r Lleuad yn Goch – Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch)
Nofel sy’n clymu’r Tân yn Llŷn yn 1936 a’r ymosodiad ar Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937. Mae tân yn y cartref henoed yn gorfodi Megan, sydd bellach yn nain, i ddewis un peth o’i llofft wrth i’r adeilad gael ei wagio gan y timau diogelwch. Pam mae hi wedi dewis hen faner denau goch, gwyrdd a gwyn?

lleuad

Y Melanai: Efa – Bethan Gwanas (Y Lolfa)
Y nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer yr arddegau. Mae Efa yn ddarpar frenhines gwlad Melania ond mae hi’n gyndyn i ddilyn yr hen draddodiadau, gan gynnwys lladd ei mam, y frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed. Yn y stori, dilynwn Efa wrth iddi frwydro yn erbyn ei thynged ei hun.

efa

Dosbarth Miss Prydderch a’r Carped Hud – Mererid Hopwood (Gomer)
Mentrwch gyda Miss Prydderch a’i disgyblion o Ysgol y Garn ar y carped hud i Goedwig y Tylluanod lle cewch weld rhyfeddodau, ond peidiwch, da chi, ag edrych i fyw llygaid Dr Wg ab Lin! Dyma’r teitl cyntaf mewn cyfres o lyfrau am yr athrawes anghyffredin a’i hanturiaethau.

miss prydderch

Teitlau’r rhestr fer Saesneg:

Santa’s Greatest Gift – Tudur Dylan Jones (Gomer)
King of the Sky – Nicola Davies (Walker)
St. David’s Day is Cancelled! – Wendy White (Gomer)
Gaslight – Eloise Williams (Firefly)
The Jewelled Jaguar – Sharon Tregenza (Firefly)
The Nearest Faraway Place – Hayley Long (Hot Key)

Mae'r tudalen hon yn ar gael yn Saesneg hefyd