Roald Dahl – Dychmygwch!

Dahl Show Launch 2 Smaller File Size

Comisiynwyd sioe theatr mewn addysg newydd sbon ar gyfer ysgolion a llyfrgelloedd er mwyn dathlu gwaith hoff storïwr y byd – Roald Dahl. Menter ar y cyd rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a chwmni theatr i blant Mewn Cymeriad yw hon, ac mae’r sioe yn ran o ddathliadau swyddogol canmlwyddiant yr awdur yng Nghymru.

Bardd Plant Cymru eleni, Anni Llŷn, sydd wedi creu’r sgript, a’r actor o Hendy-gwyn ar Daf, Chris Kinahan, sydd yn y brif ran. Mae Chris yn portreadu cymeriad ecsentrig o’r enw Alf, ac yn cyflwyno rhai o weithiau mwyaf poblogaidd yr awdur i gynulleidfa o blant ysgolion cynradd (7 i 11 mlwydd oed).

Am fwy o wybodaeth ac i archebu’r Sioe cliciwch yma.

World-Book-Day-2

 

Mae'r tudalen hon yn ar gael yn Saesneg hefyd